Rydyn ni’n gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i greu diwylliant sy’n ei gwneud hi’n haws i blant gerdded neu deithio ar olwynion, sgwter neu feic.
Nod ein gwaith gydag ysgolion yng Nghymru yw hybu gweithgarwch corfforol, lleihau tagfeydd, a gwella diogelwch o amgylch ysgolion.
Mae teithio llesol i’r ysgol yn arwain at well ymddygiad, lefelau canolbwyntio uwch a llesiant cyffredinol y disgyblion.
Mae ein profiad yn adeiladu ar y gwaith rydyn ni’n ei wneud gydag oddeutu 1,000 o ysgolion a 160,000 o ddisgyblion ledled Cymru a’r DU bob blwyddyn.
Mae ein swyddogion ysgol ymroddedig yn cydweithio’n agos ag athrawon, myfyrwyr a rhieni, gan feithrin diwylliant o deithio llesol o fewn yr ysgolion.
Gadewch i ni roi hwb i deithio llesol yn eich ysgol chi, gan greu diwylliant o lesiant a diogelwch ar draws y gymuned.
Ymunwch â ni ar y daith i drawsnewid tirwedd teithio eich ysgol.
Mae’r fenter hon yn rhoi’r holl gefnogaeth sydd ei hangen ar eich ysgol i ysgrifennu cynllun teithio llesol ar gyfer eich ysgol.
Datblygwch gynllun cryno i wella mentrau teithio llesol eich ysgol, gan greu amgylchedd hapusach ac iachach i gymuned yr ysgol.
Cewch fynediad at gyfleoedd cyllido a gwella diogelwch wrth hyrwyddo gweithgarwch corfforol a llesiant. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi ar bob cam o’r ffordd.
Mae ein rhaglen Teithiau Llesol yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru, i greu diwylliant sy’n ei gwneud yn haws i blant gerdded, neu deithio ar olwynion, sgwter neu feic.
Mae’r rhaglen yn cynnig amrywiaeth o gymorth ac arweiniad i ysgolion gan gynnwys gweithgareddau newid ymddygiad, hyfforddiant sgiliau beicio a reidio sgwter, gwersi sy’n canolbwyntio ar deithio llesol, cymhellion i gymuned yr ysgol sy’n hyrwyddo cerdded a theithio ar olwynion, ar feic ac ar sgwter a llawer mwy.
Mae Gwobr Ysgol Teithio Llesol °Ä²ÊÂÛ̳ yn dathlu ac yn cydnabod ysgolion yng Nghymru sy’n mynd ati i hyrwyddo cerdded a theithio ar olwynion, ar feic ac ar sgwter.
Cofrestrwch eich ysgol heddiw a gweithio tuag at achrediad Efydd, Arian neu Aur drwy wneud newidiadau cadarnhaol ar gyfer dyfodol mwy llesol a chynaliadwy i’ch ysgol a’ch cymuned.
Mae ein rhaglen Strydoedd Ysgol yn mynd i’r afael â’r pryderon ynghylch tagfeydd, ansawdd aer gwael a diogelwch ar y ffyrdd y mae llawer o ysgolion yn eu profi.
Rydyn ni’n gwneud hyn drwy gyfyngu ar draffig moduron wrth gatiau’r ysgol am gyfnod byr, yn gyffredinol ar amseroedd gollwng a chasglu teithwyr.
Dysgwch sut gallwn ni gefnogi eich ysgol neu’ch awdurdod lleol i dreialu a rhoi Stryd yr Ysgol ar waith yn eich ardal chi.
Beth am gychwyn menter teithio llesol yn eich ysgol ac annog plant i deithio i'r ysgol ac oddi yno mewn ffordd iach, gydag un o’n digwyddiadau cenedlaethol a chystadlaethau i ysgolion.
Cofrestrwch eich ysgol ar gyfer her Stroliwch a Roliwch °Ä²ÊÂÛ̳, sef her fwyaf y DU i annog pawb i gerdded, neu deithio ar olwynion, ar sgwter neu ar feic.
Gallwch hefyd annog eich ysgol i gadw'n heini gyda'r Wythnos Beicio i'r Ysgol a gynhelir bob blwyddyn.
Porwch drwy ein hadnoddau rhad ac am ddim er mwyn i chi gyflwyno teithio llesol i’ch ystafell ddosbarth, yn unol â Chwricwlwm newydd Cymru.
Mae’r adnoddau’n cynnig cymorth defnyddiol a gweithgareddau ymestyn camau cynnydd sy’n caniatáu i bob athro deilwra cynnwys ar gyfer yr holl ddisgyblion yn eu dosbarthiadau.
Porwch drwy ein hadnoddau rhad ac am ddim i gael rhagor o wybodaeth.
Darparwyd dros 950 o weithgareddau gydag ysgolion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Cefnogodd gweithgareddau °Ä²ÊÂÛ̳ dros 100 o ysgolion yng Nghymru.
Llwyddwyd i gyrraedd dros 29,000 o ddisgyblion, staff a rhieni gyda’n gweithgareddau.
Mae ein gweithgareddau’n cael eu darparu mewn 20 o ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru.